Croeso i ap BBC Cymru Fyw, gwasanaeth byw Cymraeg sy’n cynnwys y newyddion a’r gorau o Gymru ar flaenau eich bysedd. Dyma’r hyn sydd yn yr ap:
Prif Straeon
- y prif straeon newyddion
Cylchgrawn
- erthyglau nodwedd, darnau barn, blogiau, orielau lluniau a llawer mwy
Gwleidyddiaeth
- hynt a helynt y byd gwleidyddol yng Nghymru
Ardaloedd
- y newyddion lleol o ranbarthau Cymru
Radio
- cyfle i wrando ar eich hoff raglenni ar BBC Radio Cymru
Os ydych chi'n dewis derbyn hysbysiadau, bydd Urban Airship (ar ran y BBC) yn storio manylion unigryw eich dyfais er mwyn darparu'r gwasanaeth i chi.
Nid yw unrhyw ddata personol ynglŷn â chi (er enghraifft enw defnyddiwr neu gyfeiriad e-bost) yn cael ei brosesu. Bydd y BBC yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel ac ni fydd yn ei rannu ag unrhyw un arall, yn unol â Pholisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC, sydd ar gael yn http://www.bbc.co.uk/usingthebbc/privacy/cy/.
Gallwch stopio derbyn yr hysbysiadau gan BBC Cymru Fyw drwy fynd i sgrin 'Notifications' eich dyfais.
Gallwch hefyd gyfrannu, drwy anfon eich straeon, negeseuon a lluniau yn syth at BBC Cymru Fyw.
This is a Welsh language app from the BBC, bringing you the latest news and more from Wales.
'Ein bwriad yw gwella ap Newyddion y BBC yn gyson. Yn ddiweddar rydym wedi canolbwyntio ar wella rhai o nodweddion sylfaenol yr ap. Gyda lwc, bydd hyn yn ein galluogi i ychwanegu elfennau cyffrous yn y dyfodol.